2014 Rhif 256 (Cy. 34)

IECHYD Y CYHOEDD

Rheoliadau Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 (Dirymu) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 (O.S. 1992/460), sy’n ei gwneud yn drosedd, yn ddarostyngedig i eithriadau amrywiol, i wneud y canlynol—

—   gwerthu neu gyflenwi cit neu gydran profi am HIV i aelod o’r cyhoedd;

—   gwerthu neu gyflenwi cit profi am HIV heb hysbysiad rhybudd cysylltiedig; a

—   darparu gwasanaethau profi am HIV nas cyfarwyddir gan ymarferydd meddygol cofrestredig.

Yn ogystal, mae Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 yn gosod cyfyngiadau ar hysbysebion am gitiau, cydrannau a gwasanaethau o’r fath.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Nawdd, Sgrinio a Chlefydau Trosglwyddadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


2014 Rhif 256 (Cy. 34)

IECHYD Y CYHOEDD

Rheoliadau Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 (Dirymu) (Cymru) 2014

Gwnaed                             10 Chwefror 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       11 Chwefror 2014

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 23(1) i (3) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).

Enwi, rhychwantu a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 (Dirymu) (Cymru) 2014.

2. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

3. Mae Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992([3]) wedi eu dirymu o ran Cymru.

 

 

 

 

 

Mark Drakeford

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Chwefror 2014



([1])           1988 p.49.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol (sef, o ran Cymru) mewn perthynas ag adran 23 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, erthygl 2, At. 1 ac fe’u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

([3])           Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 (O.S. 1992/460).